Is-strategaethau rhyngwladol

Yng ngoleuni newidiadau sylweddol yn y cyd-destun byd-eang, rydym wedi ail-lunio ein His-strategaeth Ryngwladol.
Mae'r strategaeth ddiwygiedig yn ystyried y goblygiadau, a'r cyfleoedd posibl, a gyflwynir erbyn diwedd cyfnod pontio'r DU ar gyfer gadael yr UE a phandemig byd-eang Covid-19. Nid yw ein huchelgeisiau rhyngwladol wedi newid ond mae'r ffordd yr ydym yn ceisio cyflawni'r rhain wedi cael ei haddasu i'r amgylchedd sydd wedi newid.
Ein huchelgais
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol fyd-eang a rhyngwladol, â chymuned o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr rhyngwladol sy’n tyfu. Rydym yn ymestyn ein cyrhaeddiad yn rhyngwladol drwy bartneriaethau â sefydliadau o ansawdd uchel ledled y byd. Rydym yn cefnogi ein myfyrwyr a’n staff i feithrin cysylltiadau byd-eang ystyrlon drwy raglenni cyfnewid a chydweithio rhyngwladol.
Rydym yn cyfrannu at y genhadaeth addysg uwch fyd-eang drwy gefnogi’r broses o ehangu gallu addysg ac ymchwil ein partneriaid. Mae ein partneriaethau ymchwil rhyngwladol yn gwella enw da byd-eang ac effaith ein gwaith. Trwy ein gweithgareddau rhyngwladol ein huchelgais yw gwneud cyfraniad cadarnhaol at faterion o bwysigrwydd byd-eang.
Amcanion sylfaenol
Cawn ein hadnabod fel prifysgol sydd:
- yn cael ei chydnabod fel un flaengar, lle mae cysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig ac sy'n cyfrannu at faterion o bwysigrwydd byd-eang;
- yn creu cyfleoedd i bob myfyrwyr gymryd rhan mewn profiadau rhyngwladol sy’n cael effaith fel rhan annatod o'u hastudiaethau;
- yn weithredol wrth gefnogi ein staff i ddatblygu partneriaethau addysg ac ymchwil rhyngwladol;
- yn atgyfnerthu ein rhwydwaith cynfyfyrwyr byd-eang i gefnogi ein cenhadaeth ryngwladol.
Darllenwch yr is-strategaeth lawn

Is-strategaethau rhyngwladol
Rydym yn Brifysgol eangfrydig gyda chysylltiadau ledled y byd a phartneriaethau sy’n cefnogi symudedd rhyngwladol ac yn mynd i’r afael â materion o bwysigrwydd byd-eang
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a’n partneriaethau wrth galon ein hunaniaeth.