Cenhadaeth ddinesig

Mae’r Ffordd Ymlaen 2018-23 yn y broses o gael ei adolygu’n strategol ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru’r tudalennau hyn yn ystod yr hydref.
Ein huchelgais yw cael ein cydnabod am ragoriaeth yn ein gweithgareddau cenhadaeth ddinesig, yn ymrwymedig, fel partner cyfartal, i weithio gydag ysgolion, colegau, sefydliadau a chymunedau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymru ac yn rhyngwladol i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a gwella lefelau iechyd, cyfoeth a lles.
Byddwn yn gweithio gyda cholegau, partneriaid addysgol, a’r holl ysgolion yng Nghymru drwy ein fframwaith ymgysylltu ag ysgolion, gan gefnogi athrawon a gweithio tuag at wella cyrhaeddiad addysgol. Rhan o uchelgais ein cenhadaeth ddinesig, sy'n ymdrin â nifer o sectorau a gweithgareddau, fydd creu 1,000 o swyddi gwerth uchel dros gyfnod y strategaeth.
Adeiladu ar y strategaeth flaenorol
Gan adeiladu ar gyflawni pum prosiect ymgysylltu blaenllaw, y fframwaith strategol ar gyfer ymgysylltu ag ysgolion a llwyddiannau ymgysylltu eraill y Brifysgol yn ystod cyfnod y strategaeth flaenorol, megis y prosiect Treftadaeth CAER arobryn, byddwn yn sicrhau cynaliadwyedd y gweithgareddau ac yn datblygu’r ffocws er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn ei chyfanrwydd wedi'i chysylltu, yn cyflawni effaith ymgysylltu ynghyd â'n prif randdeiliaid.

Civic mission - Welsh
Rydym wedi ymrwymo i wella iechyd, cyfoeth, a lles pobl Cymru drwy greu dros 1,000 o swyddi gwerth uchel erbyn 2023.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.