Ein gwerthoedd

Byddwn yn gweithredu yn ôl Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ar ben hynny yn cael ein harwain gan y gwerthoedd canlynol:
Annibyniaeth sefydliadol
Rydym wedi ymrwymo i ymreolaeth atebol o fewn ac ar gyfer y sefydliad cyfan.
Rhyddid i ymchwilio
Rydym yn cynnal yr hawl i ymchwilio ar sail chwilfrydedd p’un a yw hynny’n arwain at ddefnydd ymarferol ai peidio. Drwy adolygu gan gymheiriaid yn yr ystyr ehangaf, disgwylir i’r ymchwil fod o'r safon uchaf.
Colegoldeb, arweinyddiaeth a rheolaeth
Rydym yn annog colegoldeb, sy'n hanfodol i fywyd prifysgol, ac yn hyrwyddo’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth sy'n angenrheidiol i ddefnyddio adnoddau prifysgol yn effeithiol ac yn gyfrifol. Byddwn yn ymdrechu i gynnal llesiant ein staff a'n myfyrwyr.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i gyflog, triniaeth a chyfle cyfartal, i gefnogi amrywiaeth a chreu cymuned sy'n agored ac yn gynhwysol.
Cynaliadwyedd amgylcheddol
Rydym yn hyrwyddo addysg gynaliadwyedd ac yn galluogi myfyrwyr a staff i wneud newidiadau cadarnhaol i’n heffaith amgylcheddol.
Cydnerthedd ariannol
Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu’r arian dros ben sydd ei angen i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol ac i allu ymdopi â digwyddiadau andwyol annisgwyl.
Cenhadaeth ddinesig
Byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth ddinesig a’n cyfrifoldebau cymdeithasol ehangach, ac rydym yn ymroddedig i'r iaith Gymraeg.