Ewch i’r prif gynnwys

Strategaethau galluogi

Mae’r Ffordd Ymlaen 2018-23 yn y broses o gael ei adolygu’n strategol ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru’r tudalennau hyn yn ystod yr hydref.

I ategu ein nodau strategol academaidd, cenedlaethol a rhyngwladol, byddwn yn cymryd y camau canlynol:

Pobl

Trwy strategaeth pobl newydd byddwn yn datblygu profiad staff cadarnhaol sy’n cyfateb i brofiad y myfyriwr, gan ein bod yn credu bod llwyddiant yn y naill faes yn dibynnu ar y llall a bod llesiant yn flaenoriaeth. Yn achos cydweithwyr academaidd, addysgu ac ymchwilio fydd y drefn arferol a chaiff gweithgarwch ysgolheigaidd sy'n ymwneud ag addysgu ei ystyried yr un mor bwysig â gweithgarwch ymchwil. Bydd cydweithwyr yn y Gwasanaethau Proffesiynol yn cynnig cefnogaeth ragorol sy’n uwch na chanolrif Grŵp Russell.

Byddwn yn asesu cynnydd trwy ein harolwg staff bob dwy flynedd, a’n nod fydd sicrhau safle yn y chwartel uchaf ymhlith ein cymheiriaid o ran ein staff yn argymell y brifysgol fel lle gwych i weithio.

Cyllid

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cynhyrchu o leiaf £30 miliwn o arian gweithredu dros ben bob blwyddyn ar gyfartaledd.  Byddwn o leiaf yn treblu’r arian newydd a geir o ffynonellau dyngarol erbyn 2023, fel ein bod yn cael o leiaf £7.5m yn rheolaidd bob blwyddyn. Byddwn yn trin ein cyllideb ar sail model cyfrannol sy’n gwobrwyo llwyddiant ac yn creu sylfaen ariannol i alluogi’r Brifysgol i fuddsoddi er lles pawb.

Ystadau a seilwaith

Byddwn yn parhau i roi’r Uwch-gynllun Ystadau ar waith ac yn cyflawni rhaglen o waith adnewyddu, cynnal a chadw ac ailwampio i gefnogi’r dyheadau a geir yn Y Ffordd Ymlaen.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Byddwn yn lleihau ein hallyriadau carbon a’n defnydd o ynni, dŵr a phlastig, gan gyfyngu cymaint â phosibl ar lygredd a gwastraff trwy ailddefnyddio ac ailgylchu lle bynnag y bo modd.

Yn dilyn y datganiad hinsawdd a chyhoeddi'r papur gwyn sy'n dogfennu ein hallyriadau carbon sylfaenol, rydym wrthi'n diweddaru cynllun gweithredu'r Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol.

Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol

‘Prifysgol Fwy Cynaliadwy’ – Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2018-2023 (Ail-lunio 2020)

Iechyd meddwl

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd dysgu, gweithio a byw sy’n hybu eich iechyd meddwl, a lle gall pob aelod o gymuned y Brifysgol ffynnu.

Enabling Success: A Strategy for Creating a Mentally Healthy University (Welsh)

Mae ein strategaeth yn seiliedig ar ddull fframwaith 'Stepchange' y sector addysg uwch o ymdrin ag iechyd meddwl. Bu Prifysgol Caerdydd yn allweddol wrth ei ddatblygu.

Y Gymraeg

Mae’r strategaeth hon yn ategu at ein mentrau, ein rhwydweithiau a’n gweithgareddau Cymraeg presennol ac yn ymgorffori gwerthoedd cysylltedd, amrywiaeth, cynaliadwyedd, lles, dealltwriaeth ddiwylliannol a dyletswydd i genedlaethau'r dyfodol.

Mae amcanion y strategaeth yn cynnig agenda diffiniedig, sy'n cefnogi dyheadau cyffredinol y Brifysgol o safbwynt ymchwil, addysgu ac uchelgeisiau rhyngwladol cyffredinol y Brifysgol ac yn addo profiad cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Strategaeth Gymraeg

Strategaeth Gymraeg Prifysgol Caerdydd.