Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn dod ag academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd a’r Ysgol Peirianneg ac ymarferwyr gweithredol o ddiwydiant logisteg a chyflenwi ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau cyfoes ym maes logisteg a rheoli gweithgynhyrchu.

Gyda’n gilydd, rydym yn dylanwadu ar ddyfodol hirdymor y diwydiant logisteg a chyflenwi.

Drwy gydweithio ers 2013 rydym wedi gallu canfod ar y cyd ddyfodol gweithgynhyrchu a thueddiadau’r gadwyn gyflenwi, a datblygu ein hymchwil i wynebu’r amgylchedd newidiol hwn.

Rydym yn cynnal ymchwil sylfaenol (a ariennir naill ai’n uniongyrchol gan gynghorau ymchwil neu drwy ymchwiliadau doethurol) ac yn trosi ei allbynnau’n arbenigedd i fusnes ac atebion masnachol ymarferol.

Ariennir y Ganolfan, sy'n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd, yn rhannol gan DSV. Mae DSV hefyd wedi noddi ystafell seminar yng Nghanolfan Hyfforddi Ôl-raddedig Ysgol Fusnes Caerdydd, adeilad £13.5m a godwyd yn unswydd er mwy diwallu anghenion ein myfyrwyr.

Gweithredwn ar sail trosglwyddo gwybodaeth a gynhyrchir ym Mhrifysgol Caerdydd i’r gymuned logisteg ehangach.

Rydym wedi derbyn sawl gwobr arbennig ar gyfer ein gwaith cywaith, sydd wedi ei arddangos nifer o weithiau yn y cyfryngau.

Addysgu a hyfforddi

Panalpina worker building power units

Ategwn ein gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil gyda datblygu’r cwricwlwm a’i gyflenwi drwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys:

  • darlithoedd a seminarau gwadd gan bartneriaid mewn diwydiant i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
  • gweithdai a hyfforddiant wedi'i deilwra
  • lleoliadau myfyrwyr
  • traethodau MSc a noddir
  • teithiau tywys i gwmnïau.

Gwnaethon ni hefyd gyd-ddylunio Academi PARC, rhaglen hyfforddi ar gyfer cyflogeion partneriaid mewn diwydiant sy’n anelu at ddarparu’r sgiliau y mae eu hangen er mwyn cynnal busnes yn llwyddiannus a datgloi dichonoldeb pob unigolyn.

Mae ein partneriaid yn cynnig ystod eang o cyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr a graddedigion.