Ymwelwyr
Mae'r Rhaglen Ysgolheigion ar Ymweliad yn caniatáu i academyddion a myfyrwyr ymchwil astudio yn y Sefydliad am hyd at flwyddyn, fel arfer i gydweithio ag un neu ragor o'r staff academaidd i lunio papurau i gyfnodolyn neu lyfr.
Cewch gyfle i ddefnyddio cyfleusterau rhagorol, i gydweithio â detholiad o staff academaidd sydd o'r radd flaenaf yn y byd, a chael profiad o fywyd yn y Deyrnas Unedig.
Os oes gennych ddiddordeb yn y Rhaglen Ysgolheigion ar Ymweliad, cysylltwch â'r staff academaidd perthnasol i drafod amser ac allbwn ymweliad posibl. Dim ond ar ôl i aelod o'r staff gytuno i'ch enwebu y dylech chi ofyn am ffurflen gais (drwy gyfrwng y cyfeiriad e-bost isod):
Cysylltwch â: sustainableplaces@caerdydd.ac.uk