Astudio
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr gradd Meistr a PhD mewn gwyddoniaeth cynaliadwyedd.
Dyma ddetholiad perthnasol o'r cyrsiau meistr a addysgir trwy gyfrwng y Saesneg:
- Eco-ddinasoedd
- Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol
- Cynllunio Gofodol a Pholisi Cynllunio Ewropeaidd
- Ynni Cynaliadwy a'r Amgylchedd
- Dylunio Amgylcheddol mewn Adeiladau
- Peirianneg Geoamgylcheddol
- Theori ac Ymarfer Dylunio Cynaliadwy
- Peirianneg Hydroamgylcheddol
- Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol
Yn ychwanegol at y rhai sydd wedi'u rhestru uchod, mae yna lawer o raglenni eraill a fyddai'n cynnig cyfle i gwblhau traethawd hir ymchwil sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, fel y Radd Meistr mewn Polisi Cyhoeddus neu Drafnidiaeth a Chynllunio. I gael y manylion, gweler tudalennau'r Brifysgol i ôl-raddedigion.
Mae efrydiaethau PhD sy'n cael eu hariannu yn cael eu hysbysebu drwy gyfrwng ein tudalen Swyddi gwag. Mae gan y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy le i fyfyrwyr sy'n cael eu hariannu gan ffynonellau eraill, ond dylai'r rhain gysylltu â'r staff academaidd perthnasol cyn cyflwyno cais.