Ewch i’r prif gynnwys

Symudedd cynaliadwy

Mae'r diwydiant moduron ym mlaen y gad o ran materion cynaliadwyedd a hynny drwy effeithiau amgylcheddol cynhyrchu a defnyddio ceir, a phwysigrwydd y diwydiant moduro i'r gymdeithas ac i'r economi.

Mae ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil BRASS dros y degawd diwethaf wedi bod yn edrych ar ymagweddau newydd at dechnoleg ceir a chynhyrchu ceir er mwyn bod yn llai niweidiol i'r amgylchedd ac yn fwy cynaliadwy yn economaidd. Byddwn hefyd yn edrych ar faterion seilwaith, economeg ac ymddygiad defnyddwyr mewn cyfnod o bontio tuag at fathau mwy cynaliadwy o symud o gwmpas yn bersonol.

Yn Uned Ymchwil newydd BRASS, byddwn yn parhau i wneud ymchwil ar fodelau busnes, canolfannau symudedd modur a symudedd trydan. Yn yr olaf yn benodol, mae rôl arloesol yn cael ei chwarae ym Mhrifysgol Caerdydd wrth ehangu'r drafodaeth ar rwystrau sy'n atal symudedd trydan. A hyn y tu hwnt i agweddau ar newid technegol i gynnwys agweddau cymdeithasol, gwleidyddol, rheoleiddiol a seicolegol.