Effaith trefoli cyflym ar iechyd yn ninasoedd mawr iawn Tsieina
Nod y prosiect hwn yw hwyluso dealltwriaeth ehangach a dyfnach o iechyd a threfoli cyflym, a chreu cysylltiadau traws-ddisgyblaethol a rhwng gwledydd i ategu cydweithredu hyfforddiant ac ymchwil yn y dyfodol.
Mae Tsieina’n byw mewn oes o ddinasoedd mawr iawn (dinasoedd sydd â phoblogaeth o dros 10 miliwn). Mae trefoli cyflym yn yr ardaloedd dinesig mawr hyn yn gysylltiedig â chynllunio gwael a diffyg mesurau lleihau llygredd, ac mae’r ddau ffactor hwn yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio’r mwrllwch (smog) diweddar yn Tsieina fel “argyfwng iechyd”. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i bobl dlawd difreintiedig a bydd y ffordd rydym yn penderfynu mynd i’r afael â heriau trefoli cyflym yn cael effaith sylweddol ar iechyd ac ansawdd bywyd y boblogaeth yn y dyfodol.
Mae’r rhyngweithio rhwng iechyd pobl a’r amgylchedd adeiledig yn gymhleth a gallant arwain at ganlyniadau na fwriedir. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod trefoli cyflym yn ffynhonnell o iechyd wael yn sgil canlyniadau na fwriedir, fel gwasgaru trefi heb eu cynllunio’n dda, diffyg mynediad i seilwaith ac anghydraddoldebau ehangach, yn enwedig ar gyfer pobl dlawd difreintiedig. Felly, mae angen canfod atebion i broblemau iechyd mewn meysydd fel cynllunio trefol, yn ogystal ag arloesi meddygol.
Mae gan ddulliau systemau sydd â phwyslais ar ffactorau cyd-destun lleol (hynny yw, meddwl ar sail lleoedd), ynghyd â theori cymhlethdod, botensial i ddatgelu achosion ac, felly, gallant helpu i wella iechyd y cyhoedd.
Gweithdy yn Xiamen, Tachwedd 2017
Dan gynllun Cysylltiadau Ymchwilwyr y Cyngor Prydeinig a gynigir o fewn Cronfa Newton, cynhelir gweithdy yn Xiamen, Tsieina ar 27-29 Tachwedd 2017 i drafod y materion hyn ac atebion posibl. Cynhelir y gweithdy gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a’r Athrofa Amgylchedd Trefol, Academi Wyddoniaeth Tsieina (CAS-IUE), a chaiff ei gydlynu gan yr Athro Terry Marsden (Prifysgol Caerdydd) a’r Athro Yongguan Zhu (CAS-IUE, Tsieina).
Nod y gweithdy rhyngddisgyblaethol hwn yw hwyluso dealltwriaeth ehangach a dyfnach o feddwl am systemau, theori cymhlethdod a dulliau ar sail lleoedd, mewn perthynas ag iechyd a threfoli cyflym, a chreu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol i ategu cynigion ymchwil a hyfforddiant yn y dyfodol. Bydd yn dod â 40 o ymchwilwyr (hyd at 10 mlynedd o brofiad ymchwil ar ôl PhD) o Tsieina a’r DU ynghyd, sydd â diddordebau ymchwil sy’n berthnasol i drefoli ac iechyd amgylcheddol er mwyn rhyngweithio a dysgu gan ei gilydd ac ymchwilio i gyfleoedd hirdymor i gydweithio ar waith ymchwil.
Mynychu
Bydd y Cyngor Prydeinig a Sefydliad Gwyddoniaeth Naturiol Cenedlaethol Tsieina (NSFC) yn talu am y costau sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn y gweithdy, gan gynnwys: teithio’n rhyngwladol ac yn lleol, llety, fisa a phrydau bwyd.
I wneud cais (ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli yn y DU yn unig), gweler yr alwad am gyfranogwyr a ffurflenni cais y gweithdy.
20 Mai 2017 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Ynglŷn â Chronfa Newton
Mae Cronfa Newton bellach yn gronfa gwerth £735 miliwn, a thrwy bartneriaethau gwyddoniaeth ac arloesedd, mae’n hyrwyddo datblygiad economaidd a lles cymdeithasol gwledydd partner. Ei nod yw cryfhau gallu gwyddoniaeth ac arloesedd a datgloi rhagor o gyllid y gall y DU a gwledydd partner ei ddefnyddio i feithrin perthnasoedd cryf, cynaliadwy a systemig. Cyflenwir y Gronfa trwy 15 o bartneriaid cyflenwi yn y DU, mewn cydweithrediad â’r gwledydd partner.
Tîm y Prosiect
Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Terry Marsden
Professor of Environmental Policy and Planning
- marsdentk@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5736
Prifysgol Abertawe

Dr Joel Dearden
Lecturer in Human Geography
Sefydliad Amgylchedd Trefol (IUE), Academi Wyddoniaeth Tsieina (CAS)
