Cymdeithion ymchwil
Swyddogaeth allweddol y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yw annog mwy o gydweithio rhwng academyddion a myfyrwyr.
Mae gan y sefydliad nifer cynyddol o gymdeithion yn amrywio o fyfyrwyr israddedig, meistr, a PhD I academyddion o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau.
Rydym am ddod ag unigolion ynghyd sy'n gweithio ochr yn ochr i ddatblygu ymchwil arloesol a darganfod cymwysiadau newydd mewn amgylchedd ysbrydoledig a chydweithredol.
Ein hymagwedd
Mae ein model cyswllt yn seiliedig ar annog ymgysylltiad ag ymchwil berthnasol y mae PLACE yn ei gwneud. Rydym yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan ymchwilwyr neu unigolion sy'n ymwneud â nodau ac amcanion ehangach.
Rydym am ddod ag unigolion ynghyd sy'n gweithio ochr yn ochr i ddatblygu ymchwil arloesol a darganfod cymwysiadau newydd mewn amgylchedd ysbrydoledig a chydweithredol.
Ein cynnig
- Desgiau Dros Dro: Mynediad at ddesg yn ein hadeilad a chysylltiad WiFi.
- Hygrededd: Byddwch yn gallu nodi eich cysylltiad â PLACE ar eich gwefan a'ch deunyddiau marchnata. Byddwch hefyd yn cael eich rhestru ar wefan PLACE.
- Rhannu gwybodaeth: Byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn ein cyfres seminarau, darlithoedd nodedig yn ogystal â digwyddiadau rhwydweithio eraill a drefnir trwy gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi weithio gydag ymchwilwyr allweddol mewn maes sy'n tyfu ac i gymryd rhan a dysgu o drafodaethau.
- Cyfathrebu: Gall PLACE hyrwyddo'ch gwaith a'ch cyhoeddiadau trwy lwyfannau mewnol ac allanol amrywiol (gan gynnwys Twitter, Linkedin a chylchlythyrau misol)
- Cyfleoedd i gynhyrchu incwm: Efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfleoedd grant allanol neu hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn cydweithrediad â PLACE.
- Cydweithio: Byddwn yn edrych ar ein rhestr o aelodau cyswllt yn gyntaf os ydym yn chwilio am rywun y gydweithio ar gyhoeddi grant ymchwil
Y broses
Penodir aelodau cyswllt gan Gyfarwyddwr PLACE am gyfnod penodol. Dylai unigolion sy'n dymuno bod yn aelodau cyswllt Mannau Cynaliadwy ebostio sustainableplaces@caerdydd.ac.uk gyda'r wybodaeth canlynol:
- Teitl ac enw:
- Diddordebau ymchwil:
- Pa fanteision fyddwch chi a PLACE yn elwa arnynt drwy eich aelodaeth gyswllt o PLACE yn eich barn chi:
Disgwyliadau aelodau cyswllt
Anogir aelodau cyswllt i:
- Gael rhaglen weithredol o ymchwil cynaliadwyedd
- Cymryd rhan amlwg yn PLACE trwy fynd i seminarau, cyflwyno eu hymchwil, cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig ac o bosibl mentora aelodau iau o staff
- Ymateb i geisiadau am wybodaeth/cefnogaeth
- Hyrwyddo PLACE, trwy ail-drydaru neu ail-rannu gwybodaeth berthnasol i'ch rhwydweithiau
- Cyhoeddi mewn cyfnodolion sydd â ffactor effaith uchel, gan ddyfynnu PLACE os yw'n berthnasol
Ein cydweithwyr
Mae'r Sefydliad Ymchwil yn fenter ar y cyd rhwng Ysgolion: