Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd israddedig cartref

Mae’r ffioedd dysgu’n daladwy i Brifysgol Caerdydd am bob blwyddyn o’ch cwrs (gan gynnwys blynyddoedd sy'n cael eu hailadrodd).

Bydd y ffi flynyddol yn talu:

  • yr holl ffioedd dysgu
  • costau hanfodol y cwrs
  • cofrestru ac arholi (ond nid ffi ailsefyll arholiadau gan ymgeiswyr sydd heb eu cofrestru ar y pryd).

Nid yw ffioedd llety’r Brifysgol wedi eu cynnwys yn y ffi dysgu.

Efallai y bydd arian ar gael tuag at gost eich ffioedd dysgu. Ewch i'n tudalennau am ariannu'ch astudiaethau i gael rhagor o wybodaeth.

Os nad ydych yn siŵr pa statws sy’n berthnasol i chi ('cartref, 'ynysoedd', neu 'dramor'), edrychwch ar ein tudalen statws ffioedd.

Mynediad 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi codi'r cap ffioedd dysgu yng Nghymru o 2024/25, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r ffioedd a godir mewn prifysgolion yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd prifysgolion yng Nghymru nawr yn gallu cynyddu'r terfyn ffioedd dysgu blynyddol y maent yn ei godi o £9,000 i £9,250 y flwyddyn.

Wrth ddisgwyl cymeradwyaeth derfynol ym mis Ebrill, bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithredu'r newid hwn i ffioedd myfyrwyr cymwys o flwyddyn academaidd 2024/25.

Ffioedd ar ôl y flwyddyn gyntaf

Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a’r blynyddoedd dilynol mewn cwrs, yn unol â’r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru.

Pan fo’n berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid erbyn mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn pan fydd y ffioedd yn cynyddu.

Blynyddoedd blaenorol

Math o fyfyriwrFfi 2023/24
Israddedigion amser llawn 'cartref'£9,000

Myfyrwyr 'cartref' ar leoliad fel rhan o'u gradd, gan gynnwys:

  • Myfyrwyr sy’n astudio dramor am flwyddyn
  • Astudio neu weithio (am dâl neu'n ddi-dâl) yn Ewrop fel rhan o gynlluniau Erasmus neu Turing
  • Gwaith ymchwil di-dâl mewn Sefydliad Addysg Uwch dramor
  • Lleoliadau gwaith tramor (am dâl neu’n ddi-dâl)
15-20% o'r ffi amser llawn, yn dibynnu at y math o leoliad
Myfyrwyr ym mlwyddyn dysgu yn y gwaith y rhaglen BSc/MArch mewn Pensaernïaeth50% o'r ffi amser llawn
Rhaglenni gofal iechyd / rhaglenni a ariennir gan y GIGGwybodaeth am ariannu eich cwrs gofal iechyd
Math o fyfyriwrFfi 2022/23

Math o fyfyriwrFfi 2021/22

Math o fyfyriwrFfi 2020/21
Israddedigion amser llawn o'r DU£9,000
Myfyrwyr ar raglen ERASMUS neu’r rhai sy’n astudio dramor am flwyddyn15% o'r ffi amser llawn
Myfyrwyr sydd ar flwyddyn o leoliad gwaith/diwydiannol20% o'r ffi amser llawn