Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau

Ein gweledigaeth yw bod pob person ifanc, waeth beth fo’i gefndir neu’i brofiad personol, yn cael ei ysbrydoli i ystyried addysg uwch yn opsiwn cyraeddadwy a’i fod yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial llawn.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio'n benodol ar bobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd addysg uwch ac sydd wedi bod o dan anfantais yn addysgol neu yr amharwyd ar eu haddysg.

Mae ein rhaglenni pwrpasol yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael profiadau sy’n eu hysbrydoli. Nod ein hystod o adnoddau a gweithgareddau addysgol i athrawon, teuluoedd a disgyblion ysgol o bob oed yw codi dyheadau a chefnogi’r gwaith o addysgu’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Students at work

Rydyn ni’n helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial

Rydyn ni’n cynnig ystod o raglenni er mwyn i bobl ifanc gael profiadau a chyfleoedd newydd sy’n eu hysbrydoli.

Female pupil looks at a bone at a table in an archaeology workshop

Adnoddau a gweithgareddau addysgol i athrawon, ysgolion a cholegau

Mae gennym ystod o adnoddau a gweithgareddau addysgol ar gyfer athrawon, teuluoedd a disgyblion ysgol o bob oed.