Ewch i’r prif gynnwys

Parc Geneteg Cymru yn cychwyn Sioe Deithiol Geneteg a Genomeg ar gyfer Ysgolion


    Clock outlineDydd Llun 18 Hydref 2021, 08:00 - Dydd Iau 31 Mawrth 2022, 08:00
  • Ar gael yn Gymraeg

Yn ystod sesiynau byw y sioe deithiol bydd siaradwyr arbenigol (dau fesul digwyddiad fel arfer) yn trafod pynciau sy'n ymwneud â DNA, geneteg a genomeg. Byddwn ni’n cyflwyno’r datblygiadau blaengar yn y meysydd hyn yn ogystal â thrafod gyrfaoedd.

Bydd pob sgwrs yn para tua 20 munud a bydd amser ar gyfer cwestiynau. Mae'r sioe deithiol yn para hyd at awr (byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i deilwra’r digwyddiadau yn ôl eich anghenion/amseriadau penodol).

Os bydd pynciau penodol yr hoffech chi glywed amdanyn nhw, rhowch wybod inni. Byddwn ni’n ceisio cynnig sgyrsiau am eich hoff bynciau. Fodd bynnag, ni allwn warantu hyn gan fod hyn yn dibynnu a yw’r siaradwr ar gael.

Cynhelir y digwyddiadau yn nhymor yr hydref 2021 a thymor y gwanwyn yn 2022.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Parc Geneteg Cymru sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn LazarouN@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Book now

TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Themâu cwricwlwm

  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd

Math o weithgaredd

  • TickSioe deithiol

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickCefnogi'r rhwydwaith Seren
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol
  • Tickundefined

Rhannwch y digwyddiad hwn