Ewch i’r prif gynnwys

Gweithgareddau Parc Geneteg Cymru ar gyfer ysgolion a cholegau


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg
  • Ar gael yn Gymraeg

Mae gan Barc Geneteg Cymru raglen amrywiol o ddigwyddiadau addysgol ar gyfer Ysgolion a Cholegau ledled Cymru a siroedd y gororau, gyda'r nod o gefnogi geneteg a genomeg mewn addysg uwchradd a chodi ymwybyddiaeth o yrfaoedd perthnasol.

Yn rhan o’r rhaglen mae’r gweithgareddau canlynol:

  • sioe deithiol Geneteg/Genomeg ar gyfer cyfnod allweddol pump
  • digwyddiadau DPP ar gyfer athrawon bioleg
  • ceisiadau am gymorth gan ysgolion a cholegau ar gyfer digwyddiadau gyrfaol a gwyddoniaeth
  • adnoddau ar gyfer ysgolion, gan gynnwys mynediad i wefan "Your Genome" a'r gêm ryngweithiol "You v's Machine" y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'r Parc Geneteg hefyd yn cynnal Rhwydwaith Geneteg Athrawon ar gyfer athrawon bioleg sy'n dymuno cael yr wybodaeth ddiweddaraf am geneteg a genomeg.

Rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Parc Geneteg Cymru yn ei gynnig a sut i gymryd rhan.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Wales Gene Park sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn walesgenepark@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

I wybod rhagor am weithgareddau, digwyddiadau, adnoddau a rhwydwaith athrawon Parc Geneteg Cymru ewch i: https://www.walesgenepark.cardiff.ac.uk/cy/ar-gyfer-ysgolion-a-cholegau/


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

  • Various
  • N/A

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13
  • TickAddysg bellach

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickIechyd a lles
  • TickGwyddorau bywyd

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickCynhadledd
  • TickDigwyddiad
  • TickRhwydweithio ac aelodaeth
  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickYmgysylltu â’n hymchwil
  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickRhwydweithio
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn


Partneriaid

  • Welsh Government