Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau Gŵyl Canol Hydref Tsieina i blant


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

Gŵyl draddodiadol yn nwyrain a de-ddwyrain Asia yw Gŵyl Canol Hydref (中秋节; Mae Zhōngqiū Jié).

Mae traddodiad hir yn perthyn i Ŵyl Canol Hydref ymhlith pobl Tsieineaidd gan eu bod wedi bod yn dathlu'r cynhaeaf yn ystod lleuad lawn yr hydref ers cyfnod teyrnlin y Shangiaid (1600-1046 cyn oed Crist). Mae wedi bod yn ŵyl genedlaethol yn swyddogol yn Tsieina ers 2008 a hon yw’r ail ŵyl bwysicaf ar ôl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Cynhelir Gŵyl Canol Hydref ar y 15fed diwrnod o'r wythfed mis yn ôl y calendr lleuadol Tsieineaidd. Yn 2023, bydd yr ŵyl yn digwydd ar ddydd Dydd Gwener 29 Medi ac i ddathlu hyn, mae tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd wedi paratoi rhywfaint o adnoddau ar-lein i athrawon eu defnyddio yn y dosbarth, neu i blant eu mwynhau gartref.

Adnoddau i athrawon ac addysgwyr yn y cartref

Mae'r adnoddau'n cynnwys fideos, gweithgareddau a gemau y gall athrawon ac addysgwyr yn y cartref eu defnyddio gyda disgyblion. Sylwer nad oes angen unrhyw wybodaeth am Tsieinëeg arnoch chi na bod yng nghwmni tiwtor Tsieinëeg i'w mwynhau.

Rydyn ni wedi trefnu'r adnoddau gan ddibynnu ar yr oedran ac wedi eu grwpio yn y ffordd ganlynol: Blynyddoedd 1-2 (5-7 oed), blynyddoedd 3-6 (7-11 oed) a blynyddoedd 7-12 (11-17 oed). Rydyn ni hefyd wedi llunio cynlluniau gwers wedi'u hamseru i'ch helpu i drefnu'ch dosbarthiadau.

I ddefnyddio’r adnoddau hyn a chynlluniau’r gwersi, cysylltwch â Rheolwr Ysgolion Cymru Tsieina, Victoria Ucele, gan ebostio ucelev@caerdydd.ac.uk.

Hanes Gŵyl Canol Hydref

A hithau’n gymdeithas amaethyddol yn y gorffennol, roedd yr ŵyl yn wreiddiol yn amser i bobl Tsieina fwynhau cynhaeaf reis a gwenith yn ogystal â bwydydd a wnaed i addoli’r lleuad. Heddiw, dyma achlysur i deuluoedd ddod at ei gilydd, a chan mai’r gred yw bod y lleuad ar ei disgleiriaf a'i mwyaf crwn yn ystod Dydd Canol Hydref, mae'r rhain yn amodau perffaith i addoli’r lleuad a mwynhau aduniadau cytûn.

Un o'r mythau mwyaf adnabyddus am Ŵyl Canol Hydref yw Chang E, duwies y lleuad yn Tsieina. Yn ôl y chwedl, cafodd gŵr Chang E, y saethwr arobryn Hou Yi, elicsir bywyd yn wobr am saethu i lawr naw o'r deg haul a oedd wedi bod yn achosi sut gymaint o wres annioddefol, gan beryglu’r boblogaeth. Ar 15 Awst ar galendr lleuadol y Tsieineaid, tra bod Yi oddi cartref, ceisiodd ei brentis Peng Meng orfodi Chang E i roi'r elicsir iddo. Gwrthododd Chang E ac yn lle hynny llyncodd hithau’r elicsir. Pan ddaeth Yi yn ôl yn nes ymlaen yn y dydd, gwelodd fod Chang E wedi hedfan i'r lleuad ar ei phen ei hun. Wedi'i syfrdanu’n llwyr, aeth ati i gynnig aberthau i'r lleuad er cof am ei wraig, a dywedir mai dyma'r rheswm pam mae pobl yn gwneud teisennau’r lleuad ac offrymau ar y 15fed diwrnod o'r wythfed mis.

Adnoddau o 2021/22

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Lluniwyd yr adnoddau ar-lein hyn i athrawon ysgolion cynradd, canol ac uwchradd eu defnyddio gyda'u disgyblion yn y dosbarth. Gall plant eu defnyddio'n annibynnol hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu gyda phlant eraill.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickTeuluoedd
  • TickSylfaen - 3-7 oed, blwyddyn sylfaen 2
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickAllgyrsiol

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn


Partneriaid

  • Hanban
  • Welsh Government