Snot Shop: bioffiseg llysnafedd
- Ar gael ar gais
- 2-4 awr
Mae Snot Shop yn weithgaredd rhyngweithiol i egluro sut mae'r system anadlol yn gweithio a pha rai yw ei phrif gydrannau.
Mae Snot Shop yn edrych ar sut y bydd pobl yn cael heintiau ar yr ysgyfaint ac yn trafod mecanweithiau amddiffyn y corff yn ogystal â sut i adnabod afiechydon gwahanol sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a pha rai yw’r symptomau. Mae'r gweithgareddau hyn hefyd yn datblygu sgiliau labordy gan gynnwys sut i ddefnyddio cyfarpar labordy sylfaenol, sgiliau llaw, sgiliau dadansoddi, dilyn gweithdrefnau gwyddonol a sut i ddefnyddio rheolyddion mewn arbrawf gwyddonol. Gellir addasu hyn i weddu i ystod o Grwpiau Blwyddyn (CA2 a 3).
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol y Biowyddorau sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Dr Kelly Berube yn berube@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Cysylltwch â Dr Kelly Berube
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.