Ewch i’r prif gynnwys

Biogronni a chadwyni bwyd yng nghyd-destun y Prosiect Dyfrgwn


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyd at 2 awr

Bydd y disgyblion (CA2-4) yn cael eu tywys ar hyd cysyniadau cadwyni bwyd a biogronni yng nghyd-destun enghreifftiau mewn bywyd go iawn ac ymchwil gyfredol.

Yn ogystal â gwersi ar gadwyni bwyd a biogronni, mae yna weithgareddau llythrennedd, rhifedd a meddwl ar gyfer sesiynau cychwynnol yn ogystal â chyfarfodydd llawn. Er enghraifft:

  • datblygu’r llais
  • yr eithriad
  • source square
  • graff y cof
  • gweithgaredd cloze.

Mae pob gwers yn ymwneud â dyfrgwn a sut y maen nhw mewn perygl oherwydd llygredd. Mae'r holl adnoddau wedi cael eu datblygu ar y cyd ag athro ysgol uwchradd. Mae'r adnoddau hyn ar gael ar wefan TES. Tri cynllun gwers gwahanol:

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Ysgol y Biowyddorau sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn otters@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Ysgol y Biowyddorau


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickGwyddorau bywyd

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickYmgysylltu â’n hymchwil
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn