Y Prosiect Ffermio Trefol
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Bydd timau o fyfyrwyr yn cael eu herio i ddylunio, adeiladu a rhaglennu eu tŷ gwydr bach clyfar eu hunain.
Mae'r Prosiect Ffermio Trefol yn seiliedig ar amrywiaeth o sgiliau STEM gyda dull dysgu cyfunol.
Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys dysgu am ddaearyddiaeth, gwyddoniaeth a mathemateg, i hyrwyddo cynulleidfa addysgu ehangach a chyfranogiad.
Mae hon yn her STEM ag adnoddau llawn ac ar ôl ymuno, bydd ysgolion yn derbyn 'Pecyn Dosbarth Ffermio Trefol'. Mae hyn yn cynnwys chwe phecyn tîm sy'n cynnwys:
- BBC.Micro:bit Bwrdd rheoli amgylcheddol Pwmp dŵr a thiwb rwber
- synhwyrydd lleithder pridd a thair batris ailwefradwy
- panel solar a dau fodur servo.
Bydd ysgolion yn derbyn y pecyn dosbarth trwy gydol prosiect Cynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW).
Bydd Llysgenhadon STEM o Brifysgol Caerdydd, wrth law trwy gydol y prosiect i gynorthwyo timau a rhoi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
School of Computer Science and Informatics sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Susan Monkton yn monktons@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Cysylltwch â STEM Cymru yn uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth a sut i archebu:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.