Ewch i’r prif gynnwys

Llwybrau at Ieithoedd Cymru


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg
  • Ar gael yn Gymraeg

Prosiect sy’n digwydd ledled Cymru yw Llwybrau at Ieithoedd Cymru. Ei nod yw cynyddu’r presenoldeb sydd gan ieithoedd yn ysgolion Cymru yn ogystal â’r defnydd ohonyn nhw.

Prifysgolion yng Nghymru, y pedwar consortiwm addysg rhanbarthol a’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru sy’n ariannu’r prosiect hwn. Ceir dwy ganolfan weithredu, un yma ym Mhrifysgol Caerdydd a’r llall ym Mhrifysgol Bangor. Rydyn ni’n cydlynu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7-13, ac yn gynyddol felly ar y cyd ag ysgolion cynradd yng Nghymru.

Mae ein hystod o weithgareddau yn rhad ac am ddim i ysgolion a gynhelir gan Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru.

Gwyliwch ein fideo

Llysgenhadon Iaith sy’n Fyfyrwyr ym Mhrosiect Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Bydd Llysgenhadon Iaith sy’n Fyfyrwyr ym Mhrosiect Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cefnogi digwyddiadau allgymorth ac yn cynnig ystod o weithgareddau gan gynnwys sgyrsiau mewn ysgolion a sesiynau blas ar iaith.  Myfyrwyr cyfredol mewn prifysgolion a cholegau yng Nghymru sy’n astudio ystod o gyrsiau ar y cyd ag ieithoedd yw ein llysgenhadon.  Mae ein llysgenhadon i gyd wedi derbyn hyfforddiant i gyflwyno sesiynau mewn ysgolion.

Llysgenhadon Iaith sy’n Ddisgyblion (Uwchradd) / Archarwyr Ieithoedd Rhyngwladol (Cynradd)

Rydyn ni’n hyfforddi disgyblion ym mlynyddoedd 7 i 9 mewn ysgolion uwchradd a blwyddyn 5 mewn ysgolion cynradd i ddod yn Llysgenhadon Iaith.

Mewn partneriaeth â Llwybrau at Ieithoedd Cymru a'u hadran ieithoedd, maen nhw’n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i gynyddu presenoldeb ieithoedd ac i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yn eu hysgolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.

Pecyn Cymorth Cynradd

Er mwyn cefnogi athrawon cynradd i gyflwyno ieithoedd rhyngwladol fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, ar hyn o bryd rydyn ni’n datblygu 'Pecyn Cymorth Cynradd' a byddwn ni’n darparu adnoddau a chanllaw addysgegol i athrawon i gefnogi’r dasg o addysgu a dysgu ieithoedd yn y sector cynradd.  Bydd y pecyn cymorth ar gael ar wefan Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn nhymor yr hydref 2021. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â info@routesintolanguages.co.uk

Dosbarthiadau Meistr Safon UG/Safon Uwch

Rydyn ni’n trefnu Dosbarthiadau Meistr Safon UG/Safon Uwch ar ystod o ffilmiau, nofelau a themâu diwylliannol manyleb CBAC yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg.

Byddwn ni’n cyhoeddi dyddiadau ein dosbarthiadau meistr ar dudalen digwyddiadau ein gwefan.

Pecyn Cymorth Llywodraethwyr Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi creu pecyn cymorth i gefnogi llywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion uwchradd i asesu 'iechyd' ieithoedd mewn ysgolion a rhoi enghreifftiau o’r arferion gorau. Bydd hyn yn golygu y gallan nhw eirioli dros y ddarpariaeth a gaiff ieithoedd yn ogystal â’u cefnogi. Gallwch chi lawrlwytho'r pecyn cymorth ar dudalen y llywodraethwyr ar ein gwefan.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Ysgol Ieithoedd Modern a Chyfieithu Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Megan Harries yn info@routesintolanguagescymru.co.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen digwyddiadau ar ein gwefan neu -bostiwch:


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickDigwyddiad
  • TickAdnodd ar-lein
  • TickCefnogaeth gan fyfyriwr y Brifysgol
  • TickCyflwyniad neu ddarlith
  • TickGweithdy

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickDatblygiad proffesiynol (DPP) i athrawon
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickCefnogi'r rhwydwaith Seren
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn


Partneriaid

  • Bangor University
  • British Council Wales
  • Cardiff Metropolitan University
  • Central South Consortium (CSC)
  • Education Achievement Service (EAS)
  • Education Through Regional Working (ERW)
  • Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd (GwE)
  • Seren network