Esgyrn ac Organau (Gweithgaredd Rhithwir)
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Cyflwyniad i esgyrn ac organau ein cyrff.
Mae gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn rhoi cyflwyniad i esgyrn ac organau ein cyrff. Byddant yn egluro ble mae'r organau wedi'u lleoli a rôl ein sgerbydau a'n cymalau gan ddefnyddio propiau hwyl a Mr Thrifty y sgerbwd.
Bydd cyfle i gwblhau taflenni gweithgaredd ac i ofyn rhai cwestiynau i'r gwyddonydd. Bydd yr atebion i'r cwestiynau'n cael eu rhannu mewn fideo dilynol.
Ynglŷn â'r trefnydd
Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER) sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Siân Morgan yn citer@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwch ofyn am y gweithgaredd hwn trwy gysylltu â thîm ymgysylltu Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER).
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.