Canllawiau i ddarpar fyfyrwyr Meddygaeth
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi creu canllawiau newydd defnyddiol ynghylch sut i wneud cais i ysgolion meddygaeth.
Mae pawb yn gwybod bod cael lle mewn ysgol meddygaeth yn gallu bod yn gryn her. Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi creu canllawiau newydd fel bod eich myfyrwyr yn gwybod ble i ddechrau a beth sydd i’w ddisgwyl ganddyn nhw.
Dyluniwyd Pasbort i Feddygaeth i fod o ddefnydd p’un a yw myfyrwyr yn penderfynu gwneud cais ai peidio, er ein bod yn trafod ein prosesau o wneud cais i astudio Meddygaeth a Ffarmacoleg Feddygol fel enghreifftiau o sut y gall y pethau hyn weithio.
O flwyddyn 9 i fyny, caiff disgyblion eu tywys drwy brofiadau a sgiliau fydd yn eu helpu i benderfynu a yw Meddygaeth yn addas iddyn nhw. Mae’r rhain wedi’u paratoi hefyd i gryfhau eu ceisiadau i ysgolion meddygaeth.
Lawrlwythwch y fersiwn Gymraeg o'r Pasbort i Feddygaeth.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
No need to book
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim