Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain Cyfnod Allweddol 3 Adnoddau Addysgu


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

Beth mae'n ei olygu i fod yn Fwslim ym Mhrydain heddiw?

Mae'r adnoddau addysgu hyn yn cynnwys naw gwers ac asesiad. Mae pob gwers wedi'i chynllunio i ateb cwestiynau allweddol.

  • Sut gallwn ni ddeall crefydd mewn cymdeithas?
  • Beth mae Islam yn ei olygu i Fwslimiaid?
  • Sut mae Mwslimiaid yn dilyn ffynonellau crefyddol o ddoethineb ac awdurdod heddiw?
  • Sut mae Mwslimiaid yn ymarfer eu crefydd?
  • Beth yw hanes Mwslimiaid ym Mhrydain?
  • Ble lleolir cymunedau Mwslimaidd?
  • Beth yw mosg?
  • Sut mae Mwslimiaid yn mynegi eu ffydd drwy’r celfyddydau?
  • I ba raddau mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn profi Islamoffobia?

Gellir defnyddio’r adnoddau addysgu fel gwersi ymarferol a hefyd fel ysgogiadau ar gyfer syniadau addysgu. Rydym wedi sicrhau bod modd lawrlwytho a golygu'r adnoddau hyn yn llawn, ac maent wedi'u dylunio mewn ffordd fodiwlaidd er mwyn ei gwneud mor hyblyg a hawdd eu defnyddio â phosibl. Gan hynny, nid oes unrhyw ffordd gywir o ddefnyddio’r adnoddau hyn. Gellir eu defnyddio fel cynllun gwaith cyfan, yn unigol neu gellir cymryd elfennau allan a'u defnyddio mewn gwersi a ddyluniwyd eisoes.

Rydym yn eich annog i addasu ac arbrofi gyda'r adnoddau hyn i ddiwallu anghenion eich ysgol a'ch dosbarthiadau. Mae pob gwers yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint i athrawon, taflen waith i ddisgyblion, cynllun gwers ac adnoddau cysylltiedig. Caiff pob gwers ei ddylunio gyda Chyfnod Allweddol 3 uwch mewn cof, ac maent tua awr o hyd.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Matthew Vince yn discoveringmuslims@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Er mwyn cael gafael ar yr adnoddau addysgu, llenwch yr arolwg byr hwn a byddwn yn anfon dolen atoch i gael gafael ar yr adnoddau. (Byddwch yn ofalus eich bod yn gwirio eich ffolder ebost sothach).


Cadwch eich lle nawr

TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickAthrawon

Themâu cwricwlwm

  • TickY Dyniaethau

Math o weithgaredd

  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickYmgysylltu â’n hymchwil
  • TickDatblygiad proffesiynol (DPP) i athrawon
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn