Cist Offer Newyddiaduraeth
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg yn unig
Mae’r Cist Offer yn rhoi cyngor ymarferol mewn meysydd allweddol i newyddiadurwyr a darpar-newyddiadurwyr, gan gynnwys rhai o ohebwyr a golygyddion enwocaf Cymru.
Mae angen i newyddiadurwyr feistroli ystod eang o sgiliau. Mae’r Cist Offer yn rhoi cyngor ymarferol mewn meysydd allweddol i newyddiadurwyr newydd a darpar newyddiadurwyr.
Mewn cyfres o fideos, mae rhai o ymarferwyr mwyaf profiadol y diwydiant yn rhannu syniadau a chyngor ar rai o’r prif agweddau ar y swydd, a gallwch hefyd ddod o hyd i daflenni gwaith i gefnogi'ch dysgu a'ch dealltwriaeth.
Dim ond yn Gymraeg mae'r adnodd hwn ar gael.
Datblygwyd yr adnoddau hyn gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi'u hariannu gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd yn lloydsm5@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Porwch drwy’r adnodd ar-lein. Bydd darlithwyr JOMEC Cymraeg hefyd yn cynnig gweithdai a chyflwyniadau blas, yn ddigidol neu wyneb yn wyneb.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim