Esboniadur Newyddiaduraeth
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg yn unig
Mae'r Esboniadur Newyddiaduraeth yn dwyn ynghyd diffiniadau a chysyniadau gwahanol o newyddion, newyddiaduraeth a'r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt mewn adnodd hawdd ei ddefnyddio.
Mae terminoleg y byd newyddiadurol yn newid drwy’r amser wrth i'r maes ei hun esblygu. Mae'r Esboniadur Newyddiaduraeth yn dwyn ynghyd diffiniadau a chysyniadau gwahanol o newyddion, newyddiaduraeth a'r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt mewn adnodd hawdd ei ddefnyddio.
Mae'r cynnwys craidd yn seiliedig ar 'Geiriau Allweddol yn y Newyddion ac Astudiaethau Newyddiaduraeth' gan yr Athro Stuart Allan a'r Athro Barbie Zelizer. Maent wedi'u haddasu a'u diweddaru gan staff Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal, ceir diffiniadau o dermau newydd yn y maes.
Dim ond yn Gymraeg mae'r adnodd hwn ar gael.
Datblygwyd yr adnoddau hyn gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi'u hariannu gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd yn lloydsm5@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Porwch drwy’r adnodd ar-lein. Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim