Gohebu ar...
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg yn unig
Wedi'i gynhyrchu ar y cyd â BBC Cymru, casgliad o adnoddau addysgol rhyngweithiol yw Gohebu ar... ar gyfer darpar newyddiadurwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y cyfryngau, newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth a materion cyfoes.
Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys cyflwyniad i wleidyddiaeth Cymru a datganoli, a gohebiaeth ar bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Chwiliwch drwy'r casgliad am weithgareddau rhyngweithiol, fideos yn cynnwys newyddiadurwyr ac academyddion arweiniol, cwisys a senarios newyddiadurol i weithio drwyddynt.
Ariennir y prosiect hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gohebu ar... Gwleidyddiaeth Cymru
Casgliad o adnoddau i ddarpar newyddiadurwyr, neu unrhyw un, sy'n awyddus i ddysgu mwy am wleidyddiaeth Cymru a datganoli.
Mae'r adnoddau yn cynnwys y canlynol:
- gwefan ryngweithiol, gan gynnwys cwis a senarios newyddiadurol
- fideo'n cyflwyno gwaith Senedd Cymru
- fideo'n edrych ar y diffyg democrataidd yng Nghymru
- podlediad gan fyfyrwyr o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn trafod gohebiaeth ar etholiadau.
Mynediad at yr Ohebiaeth ar... Adnoddau Gwleidyddiaeth Cymru.
Gohebu ar... COVID-19
Adnodd rhyngweithiol yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am ohebu yn ystod cyfnod y coronafeirws (COVID-19).
Mae’n cynnwys:
- canllaw ar sut caiff newyddion eu creu yn ystod y pandemig
- gwybodaeth am y galw am newyddion dibynadwy
- cyfrifoldebau’r Llywodraethau datganoledig yn ystod yr argyfwng
- cynnwys fideo gan newyddiadurwyr proffesiynol
- cwis.
Mynediad at yr Ohebiaeth ar... Adnoddau COVID-19.
Datblygwyd yr adnoddau hyn gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi'u hariannu gan The Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd yn lloydsm5@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae darlithwyr yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ar gael i gynnig gweithdai a chyflwyniadau blas mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach. Cysylltwch â ni i drefnu sesiwn neu ymweliad digidol.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim