Bwydo Côr y Cewri - Gwyddoniaeth Creu Caws yn Oes y Cerrig
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Gan ddefnyddio cyd-destun gwyddor archaeolegol, bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i fwyd a diet pobl Côr y Cewri ac anheddiad Durrington Walls gerllaw, 4500 o flynyddoedd yn ôl.
Bydd y gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr brofi cyflymdra’r adwaith rhwng llaeth ac asidau neu ensymau a ddefnyddir wrth wneud caws, er mwyn ystyried effaith prosesu ar gynnwys lactos bwydydd. Mae hyn yn caniatáu iddynt werthuso effaith anoddefiad lactos ar iechyd a ffordd o fyw, ac ystyried digwyddiad ac esblygiad lactos.
Cysylltiadau cwricwlwm a deilliannau dysgu
Bydd y dysgwyr yn gallu:
- datblygu dealltwriaeth o adweithiau a reolir gan ensymau
- datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer mesur cyflymdra adweithiau cemegol
- datblygu dealltwriaeth o gyfansoddiad bwyd a phrofion bwyd
- ystyried gweithgaredd ensymau a mynegiant genynnau mewn cyd-destun newydd
- datblygu dealltwriaeth o weithio’n wyddonol trwy arbrofi gydag asidau ac ensymau sy’n troi llaeth er mwyn gwneud caws.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Julie Best yn bestj3@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Os bydd gennych chi gwestiynau am y pecyn adnoddau, anfonwch e-bost at Julie Best:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.