Ewch i’r prif gynnwys

Tudalen Adnoddau Ffiseg a Seryddiaeth ar y We


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

Yma cewch hyd i ddolenni i rai adnoddau a awgrymir, a luniwyd gan staff a myfyrwyr yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Mae rhai o’r adnoddau a’r gweithgareddau hyn wedi cael eu creu gennym ni, rhai mewn cydweithrediad ȃ ni, ac mae rhai gan sefydliadau allanol - er ein bod ni’n eu hargymell i gyd! Mae ystod eang iawn o adnoddau, gan gynnwys:

  • realiti rhithwir ac estynedig
  • gweithgareddau codio
  • gweithgareddau crefft
  • paratoadau gradd
  • llyfrau, podlediadau apiau a fideos
  • gweithgareddau ar-lein ac i’w hargraffu
  • taflenni gwaith.

Ymhlith y pynciau a gynhwysir mae:

  • seryddiaeth
  • tonnau disgyrchol
  • ffiseg
  • mathemateg
  • codio.

Gallwch ddefnyddio hidlyddion ar ein tudalen gwe i chwilio am adnoddau sy’n berthnasol i’ch myfyrwyr, gan ddidoli’r adnoddau yn ôl oed, maes pwnc, math o adnoddau a mwy.

Mae’r holl adnoddau ar gael yn Saesneg ac mae rhai ar gael yn Gymraeg hefyd.

Enghreifftiau o’n hadnoddau

Anturiaethau Gwyddonol Ada

Comig yw hwn a grewyd gan y bartneriaeth rhwng y gwyddonydd a’r artist, Edward Gomez a Laura Sorvala.  Mae’r gyfres hon o dri llyfr comig yn cyffroi ac yn grymuso plant i wneud gwyddoniaeth.  Mae’r gyfres o lyfrau comig yn cynnwys Ada, merch sydd ddim yn ofni gofyn cwestiynau am y byd o’i chwmpas, wrth iddi fynd ar ei hanturiaethau Gwyddonol.

Addas ar gyfer CA2, CA3 a theuluoedd.  Mae adnoddau addysgol i gyd-fynd ȃ nhw.

Adnoddau Ffiseg Realiti Estynedig

Mae Realiti Estynedig yn gosod gwrthrychau 3D yn y byd go iawn.  Yn union fel Pokemon Go, sydd mor boblogaidd, gallwch chi archwilio planedau yng nghysawd yr haul, tyllau du, uwchnofâu a llawer mwy, fydd yn ymddangos ar y bwrdd o’ch blaen.  Y cyfan bydd arnoch ei angen yw ffôn clyfar neu dabled android i gychwyn arni.

Addas ar gyfer CA2, CA3 a CA4.

Podlediad Seryddiaeth Pythagoras

Podlediad seryddiaeth misol o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, sy’n rhoi sylw i newyddion seryddiaeth o bob rhan o’r byd.

Addas ar gyfer CA2 ac uwch.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Gallwch gyrchu’r holl adnoddau trwy ein catalog ar-lein. Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ȃ Thîm Allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth:


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickTeuluoedd
  • TickSylfaen - 3-7 oed, blwyddyn sylfaen 2
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Themâu cwricwlwm

  • TickMathemateg a rhifedd
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickCymhwysedd digidol

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickYmgysylltu â’n hymchwil
  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn