Astudiaethau Achos Daearyddiaeth
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Rydym wedi datblygu menter Astudiaethau Achos Caerdydd i helpu ein gwaith ymchwil cyfoes i lywio ac ysbrydoli addysgu Daearyddiaeth mewn ystafelloedd dosbarth ar draws y Deyrnas Unedig.
Datblygwyd yr adnoddau hyn ar ffurf partneriaeth rhwng ein Hysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ac Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd.
Lluniwyd y crynodebau ymchwil byr, a baratowyd gan ein hacademyddion, i fod yn berthnasol i feysydd llafur ysgolion ac mae modd i athrawon a myfyrwyr Daearyddiaeth eu lawrlwytho’n ddi-dȃl.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Dr Peter Mackie yn mackiep@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim