Gwyliau, Gwledda ac Anifeiliaid yng Nghôr y Cewri
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae'r adnodd hwn yn cefnogi'r gwaith o addysgu dadansoddi offerynnol, gan gynnwys cromatograffaeth nwy, sbectrometreg màs (GS-MS) a sbectrometreg màs amser hedfan yng nghyd-destun archaeoleg.
Mae'r gweithgaredd yn gwneud hyn drwy gysylltu hydoddyddion, technegau cromatograffaeth a sbectrometreg màs â darganfyddiadau o astudio Côr y Cewri a'r anheddiad cyfagos, Waliau Durrington. Mae archaeolegwyr wedi gallu pennu beth oedd pobl yn ei fwyta yn yr anheddiad hwn 4,500 o flynyddoedd yn ôl ynghyd ag o ble roedd y bwyd yn dod, gan gynnwys ambell i syrpreis am darddiad daearyddol y cig oedd yn cael ei fwyta.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Julie Best yn bestj3@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae'r adnoddau'n cynnwys canllaw i athrawon sydd ar gael ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.