Bwydo Côr y Cewri
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae'r gyfres hon o adnoddau'n cynnwys chwech o weithgareddau i addysgu gwyddoniaeth ar lefel gynradd, wrth ddysgu am Oes y Cerrig hefyd.
Mae'r gweithgareddau wedi'u creu gan ddefnyddio tystiolaeth gan wyddonwyr ac archeolegwyr yn gweithio yn safleoedd ger Côr y Cewri, megis Waliau Durrington. Maent yn ffordd wych o ddangos sut mae modd defnyddio sgiliau a gwybodaeth wyddonol i ddysgu am sut oedd pobl yn byw yn y gorffennol.
Mae'r gweithgareddau'n gysylltiedig â dysgu am ddannedd, deiet cytbwys, y system dreulio a gweithio'n wyddonol yng nghyd-destun Oes y Cerrig.
Gallwch ddefnyddio'r gweithgareddau hyn wrth ddysgu am Oes y Cerrig, neu wrth ddysgu am ddannedd, bwyd a deiet. Mae'r adnoddau'n seiliedig ar ddarganfyddiadau archeolegol yng Nghôr y Cewri a safleoedd cyfagos, sydd wedi'u defnyddio i ddysgu mwy am fywydau'r bobl oedd yn byw yn ystod y cyfnodau hyn.
Mae'r adnoddau yn cynnwys y canlynol:
- Gweithio fel Gwyddonydd
- Bwyd a Deiet
- Deiet Iachus
- Dannedd Da
- Y System Dreulio Ddynol
- Creu Caws.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Julie Best yn bestj3@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae pob adnodd ar gael ar-lein, ond mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim