Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio mathemateg a ffiseg i archwilio data seryddiaeth


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyd at 2 awr

Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddosbarthu galaethau, pennu oedran galaethau a chyfrifo oedran y Bydysawd, ynghyd â datblygu’u sgiliau llunio tablau, siartiau a gwneud cyfrifiadau.

Erbyn diwedd y gwersi hyn, dylai myfyrwyr fod â mwy o wybodaeth a, gobeithio, diddordeb o’r newydd mewn seryddiaeth, yn enwedig galaethau ac uwchnofâu. Hefyd, dylent fod â mwy o hyder mewn amrywiol sgiliau ffiseg a mathemateg.

Ystadegau galaethau (CA3, CA4)

Yn y gwersi hyn, bydd myfyrwyr yn dosbarthu galaethau gan ddefnyddio cynllun dosbarthu ac, yna, byddant yn llunio siartiau bar (CA3) a/neu histogramau (CA4). Yna, byddant yn cyfrifo mesurau o ganolduedd a gwasgariad. Ar ôl hyn, byddant yn gallu didynnu’n rhesymegol a dod i gasgliadau am natur galaethau, a’r berthynas rhwng cywirdeb a maint samplau.

Deddf Hubble (Safon Uwch)

Yn y wers hon, bydd myfyrwyr yn cymryd data o Brosiect Cosmoleg Uwchnofâu ac yn archwilio Deddf Hubble. Byddant yn llunio tablau, yn plotio graffiau, yn gwneud dadansoddiadau graffigol ac yn cyfrifo ansicrwydd. Bydd myfyrwyr yn didynnu’n rhesymegol ac yn dod i gasgliadau am y Bydysawd sy’n ehangu, cywirdeb Deddf Hubble a’r berthynas rhwng cywirdeb a maint samplau.

Mae pecyn adnoddau cysylltiedig gan bob un o’r gwersi hyn ac mae ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf PDF a Microsoft Office.

Gellir addasu’r adnoddau hyn ar gyfer gwersi byr a hir, yn ogystal ag i fyfyrwyr sylfaen neu lefel uwch. Gallwch gysylltu ag amrywiol elfennau o’r cwricwlwm, fel ffiseg, seryddiaeth, cosmoleg, uwchnofâu a dadansoddi graffigol.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Gall adnoddau i gynnal y gweithgareddau hyn gael eu lawrlwytho o’n gwefan. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm allgymorth Ffiseg a Seryddiaeth:


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickMathemateg a rhifedd
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd

Diben

  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn