Adnoddau Gweithgaredd Bydysawd Aml-donfedd
- Ar gael ar gais
- 2-4 awr
Mae’r gweithgaredd hwn yn addas i CA3, TGAU a Safon Uwch, ond gellir eu defnyddio mewn “clybiau gwyddoniaeth” gyda myfyrwyr o’r oedran hynny a myfyrwyr iau.
Mae’r adnoddau hyn yn amlinellu cyfres o weithgareddau sy’n cyflwyno seryddiaeth aml-donfedd. Prif ffocws y sesiwn yw gweithgaredd lle y mae myfyrwyr yn cysylltu delweddau o wrthrychau seryddol a welir mewn tonfeddi gwahanol. Gall yr adran hon o’r gweithgaredd gael ei gwneud gan ddefnyddio’r adnoddau sydd wedi’u cynnwys, neu gyda’n hadnodd ar-lein.
Mae’r adnoddau sydd ar gael i’w lawrlwytho yn cynnwys pecyn yr athro, cyflwyniad powerpoint a dalennau cwestiynau i fyfyrwyr.
Yn wreiddiol, datblygwyd yr adnoddau hyn mewn cydweithrediad â thîm allgymorth Arsyllfa Gofod Herschel.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae’r adnoddau ar gyfer y gweithgaredd hwn ar gael ar ein gwefan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm allgymorth Ffiseg a Seryddiaeth:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.