Pecyn cymorth llythrennedd gwybodaeth i athrawon
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae'r pecyn cymorth i athrawon yn cysylltu ag amrywiaeth o ddeunyddiau dysgu y gellir eu hargraffu ac ar-lein sy'n addas i fyfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach.
Mae'r adnoddau wedi'u cynllunio i'w defnyddio o fewn yr ystafell ddosbarth yn yr ysgol, neu i helpu gyda dysgu'n annibynnol. Mae'r pynciau’n cynnwys:
- cryfderau a gwendidau ffynonellau gwybodaeth
- sut a ble i ddod o hyd i adnoddau
- dewis adnoddau (gwerthuso beirniadol)
- defnyddio adnoddau mewn modd cyfrifol (dyfynnu, cyfeirio ac osgoi llên-ladrad).
Mae'r pecyn cymorth am ddim i'w ddefnyddio, ac mae ar gael ar ein gwefan: pecyn cymorth i athrawon.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn librarytraining@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Does dim angen archebu i gael y pecyn cymorth, ond os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, cysylltwch:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.