Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth Bagloriaeth Cymru gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg
  • Ar gael yn Gymraeg

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi datblygu cyfres o ddeunyddiau addysgu a dysgu sy'n canolbwyntio ar gyflwyno pensaernïaeth fel pwnc i ddysgwyr.

Bydd y deunyddiau yn helpu i gyflwyno pob un o heriau Bagloriaeth Cymru a datblygiad y Prosiect Unigol.

Rydym wedi ymrwymo i wella ein hymgysylltiad ag ysgolion cynradd, uwchradd ac addysg bellach leol a chenedlaethol a cholegau fel rhan o'n rhaglen allgymorth.

Mae pump o'n myfyrwyr israddedig wedi bod yn gweithio i greu'r gyfres hon o wersi a deunyddiau cyffrous i helpu athrawon Bagloriaeth Cymru i gyflwyno'r cymhwyster yn llwyddiannus. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • taflenni gwaith
  • tasgau gwersi cam wrth gam
  • Cyflwyniadau PowerPoint i gyflwyno pensaernïaeth.

Mae myfyrwyr israddedig o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi derbyn cefnogaeth i gwblhau'r prosiect hwn gan Brosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol a  CBAC.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Ysgol Pensaernïaeth Cymru sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Kelly Butt yn buttkl@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920 875968 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Kelly Butt:


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Themâu cwricwlwm

  • TickBagloriaeth Cymru a'r Cymhwyster Prosiect Estynedig

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn