Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Newyddiaduraeth a Chyfathrebu JOMEC Cymraeg


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg
  • Ar gael yn Gymraeg yn unig

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr sy’n ymddiddori yn y cyfryngau, newyddiaduriaeth a chyfathrebu ddysgu mwy am gyfleoedd gyrfaol a llwybrau astudio perthnasol.

Mae ein gweithdai Cymraeg rhad ac am ddim yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngweithiol sy’n annog myfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd, gan gynnwys sgiliau newyddiaduriaeth ddigidol a chael cipolwg ar yr amrywiaeth o yrfaoedd sy’n bodoli ar draws y diwydiannau creadigol. Gall ein gweithdai rhad ac am ddim gynnwys:

  • creu cynnwys digidol
  • adrodd straeon aml-lwyfan ffantastig
  • adnabod newyddion ffug
  • llunio trefn rhaglen newyddion
  • dysgu am y gwahanol rolau mewn ystafell newyddion
  • cyflwyno newyddion teledu.

Ewch i’n cyfrif @JOMECCymraeg Twitter i weld rhai o’r gweithgareddau y gallwn eu cynnig mewn ysgolion.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd yn LloydSM5@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920 876843 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

JOMEC Cymraeg sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd am fwy o fanylion.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13
  • TickAddysg bellach

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickCelfyddydau mynegiannol
  • TickY Dyniaethau
  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickCymraeg
  • TickCymhwysedd digidol
  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickDigwyddiad
  • TickGweithdy

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickCefnogi'r rhwydwaith Seren
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn