Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Allgymorth JOMEC Cymraeg


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg
  • Ar gael yn Gymraeg yn unig

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr sy’n ymddiddori yn y cyfryngau, newyddiaduriaeth a chyfathrebu ddysgu mwy am gyfleoedd gyrfaol a llwybrau astudio perthnasol.

Drwy ddefnyddio ystod o gyflwyniadau clyweledol, mae darlithwyr Cymraeg JOMEC yn defnyddio eu profiad fel newyddiadurwyr a chyfathrebwyr proffesiynol i amlygu manteision dilyn gyrfa yn y meysydd hyn. Dyma gyfle i:

  • glywed gan weithwyr proffesiynol sydd wedi cael gyrfaoedd nodedig yn y diwydiant
  • cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol
  • dysgu am Radio, Teledu, y Wasg, y Cyfryngau Digidol, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus (PR)
  • cael arweiniad ynghylch gwneud cais i gyrsiau perthnasol
  • clywed gan academyddion, myfyrwyr a graddedigion
  • deall dimensiynau’r Gymraeg a’r cyfleoedd sy’n codi drwy ddarpariaeth Gymraeg.

Mae modd trefnu’r gweithgaredd hwn ar gyfer grwpiau bach neu flwyddyn gyfan, yn ogystal ag athrawon.

Ewch i’n cyfrif @JOMECCymraeg Twitter i weld y gweithgareddau y gallwn eu cynnig mewn ysgolion.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd yn lloydsm5@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)2920 876843 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

JOMEC Cymraeg sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sian Morgan Lloyd i gael mwy o fanylion.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickCelfyddydau mynegiannol
  • TickY Dyniaethau
  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickCymraeg
  • TickCymhwysedd digidol
  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd

Math o weithgaredd

  • TickDigwyddiad
  • TickSioe deithiol
  • TickCyflwyniad neu ddarlith

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickCefnogi'r rhwydwaith Seren
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn