Lleoliadau Ymchwil Nuffield
- Ar gael ar gais
- Mwy nag un diwrnod
- Ar gael yn Gymraeg
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Nuffield i gynnig lleoliadau ymchwil yn y Brifysgol.
Mae'r lleoliadau ymchwil hyn ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf o gwrs STEM Ôl-16 ac maent yn para pedair i chwe wythnos fel arfer. Cynigir lleoliadau yn ystod gwyliau haf ysgol neu goleg.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gydweithio â'n hymchwilwyr STEM a chynnal eu hymchwil go iawn eu hunain. Mae wedi'i dargedu'n arbennig at fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel neu ddifreintiedig. Gellir dyfarnu bwrsariaeth wythnosol i'r myfyrwyr hyn yn ystod eu cyfnod ar leoliad.
Mae'r prosiect yn rhoi cyflawniad cydnabyddedig i'w roi ar eu cais UCAS neu CV. Mae'r lleoliadau hefyd yn eu cefnogi i wella eu sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig a'u hyder yn gyffredinol.
Mae'r lleoliadau yn cael eu cynnal gan nifer o'n Hysgolion Academaidd ac yn cefnogi amrywiaeth eang o bynciau STEM. Gwneir ceisiadau trwy Sefydliad Nuffield.
Mae'r fideo hon yn rhoi ychydig mwy o wybodaeth i chi am yr hyn a allai fod yn rhan o’r lleoliadau:
Gwyliwch fideo Lleoliadau Ymchwil Nuffield i gael rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Nuffield sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn andrea@techniquest.org i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwch wneud cais am leoliad ym Mhrifysgol Caerdydd trwy wefan Sefydliad Nuffield neu ebostio
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Bydd y lleoliadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol fannau ledled y Brifysgol.