Prosiect Profiad yn y Dosbarth
- Ar gael ar gais
- Mwy nag un diwrnod
- Ar gael yn Gymraeg
Mae’r Prosiect Profiad yn yr Ystafell Ddosbarth (CEP) yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith di-dâl yn y dosbarth ar gyfer myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes addysgu.
Gall disgyblion ac athrawon elwa ar y cyfle hwn drwy gael cymorth ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r myfyrwyr yn cyfoethogi’r profiad dysgu i ddisgyblion ysgol, ac maen nhw’n esiamplau cadarnhaol ar gyfer addysg uwch, gan helpu i godi dyheadau disgyblion.
Rydym yn cydnabod mai profiad uniongyrchol mewn amgylchedd yr ystafell ddosbarth yw'r ffordd orau i’n myfyrwyr Prifysgol ddatblygu'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i gwrs hyfforddiant athrawon neu ddatblygu’r sgiliau perthnasol i ddilyn eu gyrfa.
Caiff myfyrwyr wiriad DBS uwch gwirfoddol ac maent yn mynd i sesiwn ymsefydlu gan Brifysgol Caerdydd cyn mynd i ysgol. Mae hyn yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu profiad.
Gall myfyrwyr gynnig help gyda dosbarthiadau, grwpiau neu waith un-i-un, neu gynnig cymorth gyda phrosiectau penodol.
Ynglŷn â'r trefnydd
Y Tîm Cefnogi a Lles Myfyrwyr sy’n rhan o’r adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn classroomexperienceproject@cardiff.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Anfonwch ebost os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gydweithio â myfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel rhan o’r Prosiect profiad yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.