Mentora Ffiseg
- Ar gael ar gais
- Mwy nag un diwrnod
- Ar gael yn Gymraeg
Hyfforddodd y Prosiect Mentora Ffiseg fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig mewn ysgolion uwchradd ar draws Cymru, i fentora ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol.
Myfyrwyr o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a De Cymru yw ein mentoriaid. Mae pob un ohonynt eisoes wedi cyflawni Ffiseg Safon Uwch (neu gymhwyster cyfwerth rhyngwladol).
Mae pob mentor wedi cwblhau penwythnos dau ddiwrnod o hyfforddiant, sy’n ystyried damcaniaeth fentora, strwythur a nodau’r prosiect, a sut i ddefnyddio’r pecyn mentora.
Mae’r mentoriaid hyn wedi’u paru ag ysgolion uwchradd sy’n lleol i’w prifysgol. Byddant yn mentora rhwng pedwar a chwe disgybl blwyddyn 10 ac 11 sy’n ansicr a ydynt yn mynd i gymryd Ffiseg Safon Uwch. Cynhelir un sesiwn yr wythnos am chwe wythnos a bydd seremoni wobrwyo a chydnabod ar ddiwedd y cyfnod. Cynhelir dau gylch y flwyddyn - fis Chwefror tan fis Ebrill a mis Hydref tan fis Rhagfyr.
Mae’r mentora’n cynnwys hunanfyfyrio cyson, datblygu sgiliau megis rhesymu gwyddonol, cyflwyniad, cyfathrebu, gweithio mewn tîm a gweithgareddau i hyrwyddo amrywiaeth o yrfaoedd. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus o ran cynyddu’r tebygolrwydd y bydd merched yn dewis Ffiseg fel pwnc Lefel A a dilyn gyrfa STEM.
Gwahoddir athrawon sy’n cymryd rhan i fanteisio ar gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) er mwyn magu hyder i addysgu ffiseg a chael gyrfaoedd ym maes ffiseg.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn physicsmentoring@cardiff.ac.uk neu +44 (0)2920876710 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Dylai ysgolion sydd â diddordeb ebostio Rosie Mellors, y Cydlynydd Cenedlaethol ynglŷn ag argaeledd a rhagor o wybodaeth.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.