Ewch i’r prif gynnwys

Llysgenhadon MEDIC


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg
  • Ar gael yn Gymraeg

O’r chwith i’r dde: Llysgenhadon Meddygaeth Jomcy John, Lawrence Pugh a Jack Wellington yn cyflwyno gweithdy ar ganser y ceilliau i ddisgyblion blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Mae ein Llysgenhadon MEDIC ar gael i roi cymorth ychwanegol a mentora i ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae Llysgenhadon eisoes wedi ymweld â rhai ysgolion uwchradd a chynradd gan gynnal amryw weithgareddau megis gweithdai am y corff, ffeiriau a sgyrsiau am yrfaoedd, gweithdai am ganser y ceilliau a sesiynau ‘adnabod eich corff’ i ferched a bechgyn fel ei gilydd. Lluniwyd y sesiynau hyn i ehangu’r cwricwlwm, gwella iechyd a lles a chodi dyheadau disgyblion am y dyfodol.

Rydym yn angerddol am godi dyheadau ymhlith plant ysgol ledled Cymru, felly rhowch wybod i ni os hoffech i’ch ysgol fod yn rhan o’n cynllun Llysgenhadon MEDIC.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Tîm Ymgysylltu, Ysgol Meddygaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Karen Edwards yn medicengagement@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2074 2104 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

I gael rhagor o wybodaeth am weithgarwch ymgysylltu yn yr Ysgol Meddygaeth, ewch i’n gwefan.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickSylfaen - 3-7 oed, blwyddyn sylfaen 2
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13
  • TickAddysg bellach

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickIechyd a lles
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickGwyddorau bywyd

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickCefnogaeth gan fyfyriwr y Brifysgol
  • TickGweithdy

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn