Diwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol
- Rhagfyr
- Diwrnod llawn
- Ar gael yn Gymraeg
Mae ein Diwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol yn ddigwyddiad undydd i ddisgyblion TGAU. Ei nod yw codi dyheadau disgyblion blwyddyn 11 ledled Cymru a hyrwyddo addysgu uwch.
Mae’r diwrnod yn cynnwys gweithgareddau amrywiol megis sesiynau rhyngweithiol a sgyrsiau ar bynciau, o gemeg i wyddor bwyd, llenyddiaeth saesneg i ofal iechyd, gan gynnig cipolwg i fyfyrwyr ar sut y caiff pynciau eu dysgu ar lefel prifysgol. Yn y prynhawn, wedyn, bydd ffair bynciau yn rhoi’r cyfle iddynt i siarad â myfyrwyr presennol am eu hastudiaethau, a natur bywyd fel myfyriwr prifysgol.
Yn ogystal â’r gweithgareddau ar gyfer disgyblion, caiff sesiynau eu cynnal drwy gydol y dydd ar gyfer oedolion sydd yno’n gwmni, ar bynciau megis buddiannau addysg uwch a sut i helpu disgyblion i baratoi ar gyfer pontio i addysg uwch.
Ariennir y digwyddiad hwn gan First Campws, ac fe’i cynhelir gan y Sioe Deithiol Addysg Uwch.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
First Campus, Tîm Ehangu Cyfranogiad, yr Adran Cyfathrebu a Marchnata sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn firstcampus@southwales.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
I gael rhagor o wybodaeth a chadw lle, cysylltwch â ni.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Y Prif Adeilad
- Plas y Parc
- Caerdydd
- CF10 3AT
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.