Dyfodol Hyderus
- Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Gorffennaf, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr
- Hyd at 2 awr
Mae'r prosiect hwn ar gael i blant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc 14 oed a hŷn sy’n gadael gofal ac sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru.
Bydd pobl ifanc sy'n ymuno â'r prosiect yn cael cyfle i gyfarfod yn rheolaidd â myfyrwyr presennol y Brifysgol sy'n gweithredu fel mentoriaid. Bydd y bobl ifanc yn cymryd rhan yn y canlynol:
- diwrnodau blas ar y brifysgol
- gweithdai i gefnogi eu hastudiaethau a’u ceisiadau i’r coleg, prifysgol a gwaith
- nosweithiau cymdeithasol (megis ffilm neu noson gemau)
- teithiau grŵp (mae disgyblion wedi mynd i’r theatr, bowlio deg a Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn y gorffennol).
Caiff y rhai hynny sy’n ymuno â’r prosiect hefyd eu gwahodd i Ysgol Breswyl Haf Dyfodol Hyderus i gael profiad o fywyd myfyriwr yn y brifysgol.
Cynhelir y prosiect bob mis o fis Hydref i’r Pasg ar hyn o bryd, ond mae’n cael ei ddatblygu ac yn debygol o newid. Cynhelir yr Ysgol Breswyl Haf ym mis Gorffennaf.
Rydym yn ailddatblygu’r rhaglen Dyfodol Hyderus ar hyn o bryd, ac efallai y bydd rhai o’r manylion hyn yn newid.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
First Campus, Tîm Ehangu Cyfranogiad, yr Adran Cyfathrebu a Marchnata sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn firstcampus@southwales.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Anfonwch ebost atom i gael mwy o wybodaeth a chadw lle.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Lleoliad i'w gadarnhau.