Pwytho
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae’r gweithgaredd hwn yn ymwneud â gwella clwyfau ac mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr Safon Uwch gael profiad ymarferol o glymu pwythau, fel y maen nhw wedi’i weld o bosibl mewn ysbytai.
Fel clinigydd, mae clymu pwythau yn sgìl sylfaenol ond mae’n sgìl a all effeithio’n arwyddocaol ar sut mae clwyf yn gwella ac yn creithio. Gan ddibynnu ar ble mae’r clwyf, mae clymu pwythau taclus a thwt yn bwysig iawn.
Mae’r gweithgaredd hwn yn addas i fyfyrwyr Safon Uwch sydd â diddordeb mewn astudio meddygaeth yn y brifysgol.
Rydym yn gallu cynnal y gweithgaredd hwn yn eich digwyddiadau yn yr ysgol neu mewn lleoliadau allanol eraill. Rydym hefyd yn cynnal y gweithgaredd hwn yn nigwyddiad blynyddol Prifysgol Caerdydd, Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw, a digwyddiadau Cymdeithas Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd.
Ynglŷn â'r trefnydd
Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Amy Smith yn citer@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 0129 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwn gyflwyno’r gweithgaredd hwn mewn digwyddiadau sydd wedi’u targedu at fyfyrwyr Safon Uwch sydd â diddordeb mewn astudio meddygaeth. Anfonwch ebost atom i gael mwy o wybodaeth.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Lleoliadau amrywiol mewn digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch.
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.