Gemau Adsefydlu Symud Rhithwir
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Nod ein Gemau Adsefydlu Symud Rhithwir yw hyrwyddo dealltwriaeth o symudiad y corff, swyddogaeth a phwysigrwydd cyhyrau, a'r cysyniad o adsefydlu, sy'n angenrheidiol pan fydd cyhyrau'n cael trafferth gweithio yn iawn.
Mae'r gweithgaredd hwn yn cofnodi'r symudiadau lleiaf yn y corff drwy atodi synwyryddion mudiant di-wifr at flaen a chefn corff plentyn, h.y. ei frest a gwaelod ei gefn fel arfer.
Bydd pob plentyn yn chwarae gemau rhyngweithiol llawn hwyl sy'n ymwneud â gwyddorau symud a ffisiotherapi, er mwyn caniatáu dadansoddiad safonol a gwrthrychol o berfformiad symudiad. Caiff hyd at 17 o symudiadau unigryw eu cynnwys yn y gemau.
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer un plentyn ar y tro am gêm dwy funud.
Gallwn gyflwyno’r gweithgaredd hwn mewn ysgol neu mewn digwyddiadau yn y gymuned.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Amy Smith yn citer@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 0129 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwn gyflwyno’r gweithgaredd hwn mewn ysgol neu mewn digwyddiadau yn y gymuned. Anfonwch ebost atom gyda’ch ymholiad.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.