Rasio Cynrhon
- Ar gael ar gais
- 2-4 awr
Nod y gweithdy Rasio Cynrhon yw amlinellu'r ffordd y mae cynrhon yn cael eu defnyddio wrth ofalu am glwyfau a’u gwella, gan ddefnyddio cyflwyniad poster byr.
Yn sgil sgwrs fer am ddefnyddio cynrhon meddygol i wella clwyfau, rhoddir y cyfle i grwpiau o blant gymryd rhan mewn ras gynrhon rhyngweithiol a llawn hwyl gan ddefnyddio ein Trac Rasio Cynrhon.
Bydd pob grŵp yn enwi cynrhonyn ac yn ei annog tuag at y llinell derfyn. Bydd perchennog y cynrhonyn buddugol yn cael tystysgrif.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Amy Smith yn citer@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 0129 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gall ysgolion cynradd, trefnwyr digwyddiadau a chydweithwyr Prifysgol Caerdydd wneud cais am y gweithgaredd hwn. Anfonwch ebost atom i wneud cais.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.