Diwrnod Band Mawr
- Ar gael ar gais
- Diwrnod llawn
Rydym yn aml yn cynnal digwyddiadau sy’n rhoi’r cyfle i ddisgyblion ddatblygu ensemble jazz a chwarae ar y cyd â staff a myfyrwyr jazz y Brifysgol.
Mae gennym ddiddordeb mewn datblygu mwy o’r digwyddiadau hyn ac rydym yn hapus i weithio gyda chi i ddiwallu eich anghenion. Er enghraifft, gwnaethom gynnal gweithdy rhagweithiol a chydweithredol a chyngerdd anffurfiol i gerddorion ifanc talentog yn ddiweddar. Gwahoddwyd cerddorion ifanc talentog i Ddiwrnod Gweithdy Band Mawr Prifysgol Caerdydd er mwyn ymuno â’r myfyriwr cyfansoddi MA, Matt Lush a’r Band Mawr i ddatblygu eu sgiliau mewn chwarae jazz ar hap a pherfformio mewn ensemble.
Rydym yn cynnal y sesiynau hyn yn unol â chais ysgolion ac yn hapus i'w teilwra i'ch anghenion.
Gallwch ddarllen mwy am y Diwrnod Gweithdy Band Mawr mewn stori newyddion diweddar.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Cerddoriaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Dr Dan Bickerton yn bickertondi@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 0405 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Rydym yn hapus i deilwra eich digwyddiad i’ch anghenion. Cysylltwch â Dr Dan Bickerton drwy ebost.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Cardiff University School of Music, Adeilad Cerddoriaeth
- 31 Heol Corbett
- Cathays
- Caerdydd
- CF10 3EB