Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau

Rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau ar gyfer cyrsiau penodol, ac ar gyfer myfyrwyr sy’n ennill canlyniadau arholiadau rhagorol.

Dyfarniad Pwy allai fod yn gymwys? Swm

Ysgoloriaethau yr Ysgol Peirianneg

Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen gradd sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig. Mae swm y dyfarniad yn amrywio. Cewch wybod rhagor ar dudalennau gwe yr Ysgol Peirianneg

Ysgoloriaethau yr Ysgol Cerddoriaeth

Myfyrwyr israddedig yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Mae sawl ysgoloriaeth a dyfarniad gwahanol ar gael. Cewch wybod rhagor ar dudalennau gwe yr Ysgol Cerddoriaeth

Ysgoloriaeth Ysgol y Gymraeg (a adwaenir hefyd fel Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol)

Myfyrwyr israddedig sy’n dewis astudio’r Gymraeg gyda ni. Mae tair ysgoloriaeth ar gael, a phob un yn werth £1,000. Cewch wybod rhagor ar dudalennau gwe Ysgol y Gymraeg
Ysgoloriaethau i astudio trwy gyfrwng y GymraegMyfyrwyr israddedig sy'n astudio rhan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.Hyd at £3,000 dros dair blynedd.
Ysgoloriaeth Plant AberfanMyfyrwyr yr oedd eu rhieni'n byw yn Aberfan yn ystod trychineb Aberfan 1966, neu fyfyrwyr sy'n byw ym Merthyr Tudful ar hyn o bryd.Hyd at £1,500 dros gyfnod o dair blynedd.

Bwrsariaethau

Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau ariannol a rhai personol eraill effeithio ar eich penderfyniad i wneud cais i’r brifysgol. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn cynnig ystod o fwrsariaethau.

Rhagor o wybodaeth am fwrsariaethau

Canllaw Cyllid Myfyrwyr 2023

Canllaw cyllid myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr y DU.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr