Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau Agored Israddedig

Os ydych chi'n ystyried astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, dewch i ddarganfod bywyd myfyrwyr mewn diwrnod cyffrous llawn profiadau, sesiynau gwybodaeth a theithiau.

Digwyddiadau ar y gweill

Bydd ein Diwrnodau Agored nesaf yn cael eu cynnal ddydd Gwener, 5 Gorffennaf a dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf 2024. Bydd modd cadw lle yn y digwyddiadau hyn yn nes at yr amser. Fodd bynnag, gallwch chi gofrestru i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ein Diwrnodau Agored ac ati.



Cofrestrwch nawr

Ymunwch â ni yn un o'n gweminarau sydd ar ddod neu ewch ar daith campws.

Beth i’w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored

Dewch i weld drosoch chi eich hun sut beth yw astudio a byw ym mhrifddinas Cymru. Bydd y digwyddiad arbennig yma'n rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad hyderus am eich dyfodol.​

Gallwch chi:

  • grwydro o amgylch ein campysau
  • siarad â'n myfyrwyr i gael syniad go iawn o sut beth yw bywyd myfyriwr
  • cwrdd â'n hacademyddion a'n staff cymorth
  • dysgu rhagor am ein cyrsiau
  • gweld sut le yw ein neuaddau preswyl
  • gweld sut beth yw'r ardal leol a byw yng Nghaerdydd

Pam astudio gyda ni?

Ewch ar daith fideo dan arweiniad myfyrwyr i weld mwy o'n campws, a dysgwch mwy am yr opsiynau astudio sydd ar gael i chi.

Byw yng Nghaerdydd

Dewch i wybod am yr hyn sy’n gwneud prifddinas Cymru mor ddeniadol.

Pam dewis Caerdydd

Darganfyddwch pam y dylech ddewis Prifysgol Caerdydd.

Student support - contact us

Archwilio’r pynciau

Dewch i wybod rhagor am yr ystod o bynciau rydyn ni’n eu cynnig.

Ffyrdd eraill o ddarganfod mwy am ein campws

Dyma rai o’r cyfleoedd eraill i ymweld â ni a chael blas ar sut beth fydd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Students on their laptops

Gweminarau israddedig

Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am y sesiynau ar-alw am fywyd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Teithiau ar gyfer is-raddedigion o amgylch y campws

Beth am gael gwybod rhagor am y Brifysgol a chael blas ar fywyd y campws yn ystod taith gerdded?

Taith rithwir o amgylch y campws

Ewch ar daith ar-lein o amgylch ein campysau, preswylfeydd a dinas Caerdydd trwy ein taith campws rithwir.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’n timau israddedig.