Ewch i’r prif gynnwys

Gweminarau israddedig

Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am y sesiynau ar-alw am fywyd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyfres Darganfod Caerdydd

Cyfres o weminarau sy’n rhad ac am ddim i fyfyrwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 ac sydd â diddordeb mewn mynd i'r brifysgol yw Darganfod Caerdydd.

Mae Darganfod Caerdydd yn gyfres o gyflwyniadau a sesiynau cynghori ar ystod o bynciau sy’n ymwneud ag addysg uwch. Mae'r sesiynau wedi'u teilwra i'ch tywys drwy'r broses o wneud penderfyniadau - gan gynnwys sut i ddewis cwrs a sut beth yw diwrnod arferol myfyriwr prifysgol.

Digwyddiadau i ddod

Bydd y sesiynau isod i gyd yn cael eu cynnal rhwng 17:00 a 18:00.

Teitl y SesiwnCrynodeb y sesiwnDyddiad
Sgiliau AstudioNid oes ffordd gywir i astudio. Mae'n ymwneud â darganfod beth sy'n gweithio orau i chi. Yn ein gweminar, byddwch yn dysgu mwy am wahanol dechnegau astudio ac awgrymiadau ar gyfer gwneud y fwyaf o'ch amser adolygu.18 Ebrill 2024
Llety ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae byw yn llety prifysgol yn ffordd wych o ddechrau bywyd yn y brifysgol a chwrdd â myfyrwyr newydd eraill. Ymunwch â ni yn ein gweminar i glywed am yr ystod eang o lety sydd gennym i'w gynnig, y costau a sut i wneud cais.

2 Mai 2024
Gwneud cais i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth neu Wyddorau Gofal IechydGweminar ar gyfer rheini sy’n edrych i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth neu Wyddorau Gofal Iechyd yn 2025. Dechreuwch feddwl am y broses yn gynt trwy ymuno â ni er mwyn glywed fwy am y cyrsiau eu hun, yn ogystal â’r broses ymgeisio.22 Mai 2024
Beth i'w wneud os nad yw pethau'n mynd fel i chi’n disgwyl...Weithiau dyw pethau ddim yn mynd fel gwnaethoch gynllunio ac mae hynny'n iawn, mae opsiynau eraill i'w gael. Yn y weminar hon, rydym yn rhannu gwybodaeth ynglŷn â beth i'w wneud pryd nad ydych yn cyrraedd y gofynion mynediad, gan gynnwys manylion am glirio.11 Mehefin 2024
Beth allai wneud yn ystod yr haf?Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud dros wyliau'r haf cyn i'r flwyddyn academaidd ddechrau. O brofiad gwaith i roi ar eich datganiad personol i ymweld â phrifysgolion a dinasoedd posibl.27 Mehefin 2024

Cadwch eich lle nawr

Beth i’w ddisgwyl

Mae ein gweminarau am ddim yn gyfle perffaith i ddod i adnabod Prifysgol Caerdydd os ydych wedi colli diwrnod agored ar y campws neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am astudio gyda ni.

Byddwch chi’n gallu gwylio a gwrando ar ein staff a’n myfyrwyr, ond fyddan nhw ddim yn gallu eich gweld na'ch clywed chi (felly fydd dim angen camera gwe neu feicroffon arnoch).

Cewch y cyfle i gyflwyno cwestiynau yn ystod y weminar.

Sgyrsiau wedi'u recordio

Gallwch chi ddal i fyny â digwyddiadau'r gorffennol yn ein cyfres o weminarau, sef Holi Caerdydd, drwy wylio recordiadau'r digwyddiadau.

Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Yn y sesiwn yma, byddwch yn darganfod beth sy’n gwneud Caerdydd i sefyll allan, a hefyd byddwch yn clywed persbectif uniongyrchol gan rai o’n myfyrwyr presennol sy’n rhoi cipolwg ar sut beth yw byw ym mhrifddinas Cymru.

Cyfweliadau prifysgol

Mae cymryd rhan mewn cyfweliadau yn gallu fod yn brofiad brawychus i lawer o myfyrwyr. Fodd bynnag, mae ein cyflwyniad Technegau Cyfweld yn trafod y gwahanol fathau o gyfweliadau, cyngor ar sut i baratoi a gwallau cyffredin i’w hosgoi. Rydym yn gobeithio gallwn rhoi’r hyder i fyfyrwyr fynd i’r afael â chyfweliadau gydag agwedd positif er mwyn iddynt berfformio ar eu orau yn y cyfweliad.

Bywyd Myfyrwyr

Ymunwch â rhai o’n myfyrwyr presennol wrth iddynt siarad am eu bywyd ddydd i ddydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddwch yn gallu darganfod sut beth yw bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd gan y rhai sy’n gwybod orau.

Cyflwyniad i addysg uwch a dewis cwrs

Gan gynnig trosolwg cyffredinol o beth yw pwrpas prifysgol, mae sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r holl bynciau allweddol megis sut i ymchwilio cyrsiau, dulliau addysgu prifysgolion, bywyd myfyrwyr a chyllid. Mae ein sgwrs hefyd yn edrych ar fanteision mynd i’r brifysgol ac yn archwilio’r cwestiynau y dylai myfyrwyr gofyn i’w hunain.

Gwneud y fwyaf o ddigwyddiadau UCAS

Gall ffeiriau gyrfaoedd a phrifysgolion fel digwyddiadau UCAS deimlo ychydig yn frawychus ond does dim rhaid iddyn nhw fod. Darganfyddwch awgrymiadau ar sut i wella eich profiad yn ddigwyddiadau UCAS.

Astudio Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd

Darganfyddwch sut beth yw astudio iaith dramor fodern ym Mhrifysgol Caerdydd dan arweiniad staff o'n Hysgol Ieithoedd Modern. Maen nhw'n trafod buddiannau addysgol, personol a gyrfaol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’n timau israddedig.