Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen Therapi Galwedigaethol yw’r un orau yn y DU.
Ein cysylltiadau
Mae gennym gysylltiadau agos â Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol ac â chyrff a sefydliadau proffesiynol allweddol eraill.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Roedd ein rhaglen Therapi Galwedigaethol yn y safle 1af yn y DU yn Complete University Guide 2018 a 2019, a'i nod yw eich paratoi ar gyfer eich gyrfa ddewisol fel therapydd galwedigaethol.
Ein sgwrs
Mae'r Tiwtor Derbyn Therapi Galwedigaethol (BSc), Dr Heather Hurst, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae Amy, myfyriwr Therapi Galwedigaethol yn y drydedd flwyddyn (BSc) yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.
Mae gennym lawer o ystafelloedd ymarferol lle y gall myfyrwyr ymarfer a datblygu eu sgiliau clinigol.
Cyfleoedd gofal iechyd byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol. Yn 2019, teithiodd dros 100 o fyfyrwyr israddedig gofal iechyd a chawsant brofiad o ofal iechyd dramor.
Ydych chi am ddewis cwrs sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Gyda chyrsiau hygyrch, darlithwyr ysbrydoledig, a gwneud ffrindiau oes, rhyddhewch eich potensial gyda ni a dechrau gyrfa y byddwch chi'n ymfalchïo ynddo.